Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026
Pwynt Craffu Technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt adrodd, fodd bynnag, nid yw’n cytuno ag ef.
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 24A(5)(a) a (b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”). Eu pwrpas yw cyfyngu ar y swm y gall Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) ei ddidynnu o enillion yr ardoll ymwelwyr mewn cysylltiad â’i gostau a’i alldaliadau.
Nid yw rheoliadau a wneir o dan adran 24A(5) o Ddeddf 2016 ond yn berthnasol pan fo prif gyngor wedi cyflwyno’r ardoll ymwelwyr yn ei ardal. Dim ond o dan Ran 3 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) y gall prif gyngor wneud hynny. Yn yr un modd, dim ond os yw ACC yn casglu’r ardoll ymwelwyr ar ran prif gyngor sydd wedi ei chyflwyno o dan Ran 3 o Ddeddf 2025 y gellir didynnu costau ac alldaliadau (ac mae’r didyniad hwnnw wedi ei gyfyngu gan reoliadau o dan adran 24A(5) o Ddeddf 2016).
Fel y nodir yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, diffinnir y term ardoll ymwelwyr yn adran 192(2) o Ddeddf 2016 a rhoddir yr un ystyr iddo ag yn Rhan 3 o Ddeddf 2025.
Mae hyn yn golygu mai unig ystyr y cyfeiriadau at ardoll ymwelwyr yn y Rheoliadau hyn yw ardoll ymwelwyr a gyflwynir gan brif gyngor o dan Ran 3 o Ddeddf 2025 oherwydd ni all y term yn y cyd-destun hwn fod ag unrhyw ystyr arall.
Mae paragraff 4.2(2) o Drafftio Deddfau i Gymru yn datgan “Ni ddylid cynnwys diffiniad oni fydd yn helpu eglurder neu sicrwydd. Os bwriedir i derm gyfleu ei ystyr cyffredin yn y geiriadur yn y Ddeddf, neu os yw’n amlwg o’r cyd-destun at beth y mae’r term yn cyfeirio, ni ddylai fod angen diffiniad...”
Ni ddiffiniwyd y term ardoll ymwelwyr yn y Rheoliadau ar y sail ei bod yn amlwg o’r cyd-destun at beth yr oedd y term yn cyfeirio ac mae Llywodraeth Cymru yn cynnal y safbwynt hwnnw.